Ennill gwobr misol a derbyn
newyddion wythnosol am
fargeinion gorau Pwllheli:
Enw:
Ebost:

Croeso i Bwllheli!

Os ydach chi’n byw ym Mhwllheli, cewch yma newyddion, bargeinion gorau’r dref, gwybodaeth am gymdeithasau a chlybiau, rhifau defnyddiol ar gyfer gwasanaethau a llawer mwy.

 

Os ydach chi’n ymweld รข’r ardal, cewch yma bob math o syniadau ar gyfer pethau difyr i’w gwneud, siopau bychain lleol lliwgar, atyniadau lleol a llefydd i fwyta ac aros.

 

Os ydach chi’n rhedeg clwb neu gymdeithas neu fusnes yn y dref ac yn awyddus i hyrwyddo eich gwaith ar y wefan hon, anfonwch ebost at hybu[at]pwllheli.org - rydym yn edrych ymlaen at glywed ganddoch!

Cynnigion Arbennig

Clywed am y gorau sydd ar gael»

Trwy gydweithio gyda’n gilydd fel rhan o’r Rhwydwaith Busnes, mae busnesau Pwllheli yn bwriadu sicrhau y byddwch yn medru clywed am ein holl fargeinion yn fan hyn. Bob tro bydd cynnig arbennig ar gael yn y dref, byddwn yn gadael i chi wybod amdano fo yn fan hyn…:-)

Cymdeithasau Lleol

Clwb Cychod y Marina»

Saif Clwb Cychod y Marina uwch harbwr Pwllheli, a cheir olygfa odidog oddi yma o’r marina ei hun a mynyddoedd Eryri.
Ceir awyrgylch gyfeillgar yn y clwb, a chynigir defnydd llithrfa a pontynau i’r aelodau. Mae yma hefyd ddigon o le parcio preifat ar gyfer ceir a threlars. Croeso mawr i aelodau newydd!
Am ragor o wybodaeth, […]

Adloniant Lleol

Gem rygbi gyntaf 2008.»

Mae’r tymor wedi bod yn un annodd hyd yn hyn. Er fod y tim wedi bod yn perfformio’n dda ar y cae mae llif a threfn y gemau wedi cael eu ffeithio gan nifer o elfennau tu allan i’n rheolaeth.
I gychwyn daeth Cwpan y Byd i dorri fyny wythnosau agoriadol y tymor. Hefyd roedd methiant […]