Rhwydwaith Busnes Pwllheli wedi’i lawnsio
Mae Rhwydwaith Busnes Pwllheli yn ymdrech newydd i sicrhau gwell llwyddiant i fusnesau’r dref trwy gydweithio er mwyn hybu Pwllheli yn lleol ac yn genedlaethol. Mae’r rhwydwaith yn cael ei weinyddu gan y mudiad Cymuned, sydd yn credu bod siopau bychain lleol yn rhan hanfodol o lwyddiant unrhyw gymuned.
Os ydych chi’n awyddus i ddod yn rhan o’r rhwydwaith er mwyn hyrwyddo eich busnes chi yn fwy llwyddiannus, cysylltwch trwy ebost ar hybu[at]pwllheli.org neu drwy ffonio Cymuned ar 01758-612712.