Ennill gwobr misol a derbyn
newyddion wythnosol am
fargeinion gorau Pwllheli:
Enw:
Ebost:

Help i gynnal busnes yn y Gymraeg

Bydd busnesau ym Mhwllheli yn cael cymorth i ddefnyddio rhagor o’r Gymraeg wrth i bartneriaid Grŵp Hyrwyddo Iaith Gwynedd uno mewn ymgyrch i gynyddu defnydd o’r iaith mewn busnes o ddydd i dydd.

Mae ymchwil eisoes yn dangos bod cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith yn disgwyl fwy a mwy i allu derbyn gwasanaeth, neu brynu a gwerthu, drwy gyfrwng y Gymraeg. Bwriad y cynllun newydd felly yw galluogi rhagor o fusnesau i fanteisio ar yr help sydd ar gael i ddarparu eu gwasanaethau yn ddwyieithog ac i annog cwsmeriaid a defnyddwyr i ofyn am eu gwasanaethau yn lleol yn y Gymraeg.

Meddai’r Cynghorydd Dafydd Iwan, Uwch-Arweinydd Portffolio Datblygu Cyngor Gwynedd: “Mae nifer fawr o gwmnïau yn defnyddio’r Gymraeg yn barod, ac yn gweld budd masnachol o wneud hynny.

“Ond mae llawer mwy fyddai’n dymuno defnyddio rhagor o’r iaith er lles eu busnes a’u cwsmeriaid. Y gobaith yw y bydd yr ymgyrch yn rhoi help iddyn nhw wneud hynny ac i roi gwybod i fusnesau yn yr ardal bod grantiau ac amrywiol gynlluniau ar gael i’w galluogi i ddarparu mwy o wasanaethau i’w cwsmeriaid yn y Gymraeg.”

Mae Grŵp Hyrwyddo Iaith Gwynedd am bwysleisio bod y cymorth ar gael i unrhyw fusnes ym Mhwllheli. Y nod yw i ddod i gysylltiad â busnesau dros y tri mis nesaf a’u cynorthwyo i gymryd nifer o gamau bychain i roi’r Gymraeg wrth galon eu busnes.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Llinos Iorwerth ar 07970-997124 neu post[at]llinosiorwerth.com.

Ar 24/01/2008 gan admin -->

Gadewch Sylw