Ennill gwobr misol a derbyn
newyddion wythnosol am
fargeinion gorau Pwllheli:
Enw:
Ebost:

Siop Coffi ‘Ffa Coffi’

Cychwynnodd syniad ‘Ffa Coffi’ pan daeth gwr busnes lleol Hywel Jones a’i wraig Meirwen i drafod gyda Catrin Jones (dim perthynas!) y posiblrwydd am agor café ym Mhwllheli. Ambell wydr o win yn nes ymlaen, roedd syniad café wedi tyfu’n freuddwyd am far coffi Cymreig safonol, a roedd eu hangerdd am goffi gwirioneddol arbennig o’r Eidal wedi troi’n dân.

Erbyn diwedd mis Medi 2006, agorwyd Ffa Coffi am y tro cyntaf, a dros y misoedd canlynol, wrth i’r gwaith adeiladau, addasu ac addurno ddod i ben, tyfodd y syniad a thyfodd poblogrwydd Ffa Coffi!

Ar 17/01/2008 gan admin -->

Gadewch Sylw