Ennill gwobr misol a derbyn
newyddion wythnosol am
fargeinion gorau Pwllheli:
Enw:
Ebost:

Llygad Llŷn

‘Os yw popeth am aros ‘run fath, mae rhaid i bopeth newid’ dyna be ddywedodd Tancredi wrth ei ewythr y Tywysog yn y llyfr gan Lampedusa ‘Y Llewpard’. A yw’r dywediad yma’n slogan ar gyfer y presennol a hefyd i Adroddiad yr Arolygydd - Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd?

Mae Gwynedd yn Awdurdod Unedol, mae 22 ohonynt yma yng Nghymru. Yn 1995/6 gydag adrefnu Llywodraeth Leol diddymwyd bob Cyngor Dosbarth, Sir, Tref/Dinas a Bwrdeistref a lluniwyd yr Awdurdodau Unedol newydd. Mae rhaid i bob Awdurdod creu Cynllun Datblygu Unedol (CDU) neu drefn gyffelyb. Yn achos Gwynedd mae’r CDU i fod i ddangos i’r cyhoedd , busnesau a chyrff eraill, polisïau sydd am arwain y Cyngor i gymryd penderfyniadau ar nifer helaeth o bynciau, o gynllunio i newidiadau yn y boblogaeth tan o leaf 2016.

Fel y disgwylir mai wedi bod yn broses hir a chymhleth. Yn cychwyn yn 2001, ac erbyn 2004 ‘roedd ddogfen drafft ar gael o’r CDU, dangoswyd hwn hyd a lled Gwynedd mewn arddangosfa am gyfnod o tua 6 wythnos yn yr Haf.

Canlyniad hwn oedd ddogfen arall swmpus gyda’r teitl – ‘CDU Gwynedd Newidiadau Arfaethedig Cyn Ymchwiliad’, a chyhoeddwyd yn Medi 2005.

Y cam nesaf oedd cyflwyno’r oll ddogfennau, gyda thua 2800 sylwadau a gwrthwynebiadau i’r Arolygwyr Llywodraeth y Cynulliad. Cychwynnodd yr Arolygwyr ar eu gwaith yng Nghaernarfon tua dechrau 2006 ac erbyn Awst 2006 ‘roedd bob polisi, sylw a gwrthwynebiad i’r CDU wedi cael sylw. Wedyn ‘roedd angen i’r Arolygwyr ysgrifennu adroddiad ac awgrymu argymhellion (sef newidiadau) i’r Cynllun. Derbyniwyd yr adroddiad yma ar ffurf CD mis Rhagfyr. Mae 1,307 o dudalennau yn yr Adroddiad yma.

Teitl swyddogol yr adroddiad yw ‘Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd - Adroddiad yr Arolygwr’ - bydd gan y ddogfen yma dylanwad pellgyrhaeddol ar fywyd yng Ngwynedd. Ar ôl bras-ddarllen y 1,307 o dudalennau cefais flas o le ‘roedd Adroddiad yr Arolygwr yn mynd a beth ‘roedd yr argymhellion. Mae’r adroddiad mewn ffurf ‘Argymhellion’. Ond beth yw ystyr ‘Argymell’; cenadwri, cyngor neu awgrym? Mae gan Gyngor Gwynedd yr hawl i anwybyddu bob ‘Argymhelliad’ gan yr Arolygydd, ond gydag oll bwysa’r Cynulliad tu ôl i awdurdod yr Arolygwr, ‘rwyf yn tybio mai derbyn rhan helaeth o’i Argymhellion bydd Cyngor Gwynedd.

Felly, beth sydd ar gael yn y ddogfen? Ar y rhestr ‘Dim Diolch’ yw Polisi CH4 - ‘Tai Newydd mewn Pentrefi Gwledig’. Crëwyd y polisi yma gan Wynedd i geisio ymateb i’r galw gan bobl leol am dai mewn ardaloedd gwledig. Mae’r Adroddiad am fynnu diddymu’r polisi yma, y canlyniad yw fydd hi’n llawer anoddach adeiladu yn y wlad.

Ergyd arall i ddatblygiadau yn yr ardaloedd gwledig yw’r argymhelliad i dynhau ar y Ffiniau Datblygu, eto llai o gyfle i adeiladu tu allan i’r prif ardaloedd datblygu.

Beth yw canlyniad yr uchod? Yn fy marn i, siom a dadrithiad i’r bobl leol sydd am ymgeisio ac yn methu adeiladu yn eu hardaloedd gwledig, a’r bys wedi ei bwyntio’n annheg tuag at Gyngor Gwynedd am y penderfyniad.

Beth am Bwllheli? Mae ‘na syndod yma ynglŷn â materion tir. Mae’r Arolygydd yn argymell tynnu allan y tir ar Lon Abererch (cae ar yr ochr chwith wrth yr arwydd 30mph), ‘Roedd wedi cael ei glustnodi yn y Cynllun ar gyfer 30 o dai. Ond mae o’n awgrymu cadw’r tir wrth ymyl Garej Glandon/Spar ar y ffordd allan o Bwllheli ar gyfer stad ddiwydiannol (2 hectar) a tua 25 o dai (.79 hectar). Mae’r clustnodiad yma, a bendith yr Arolygwr ar dir yr hen Gae Hoci , Penrallt a’r cae gyferbyn a’r hen fynwent Eglwys yn Denio ar gyfer tai, yn codi senario diddorol. Mae’r safleoedd yma’n agos at ei gilydd yn ddaearyddol (edrychwch ar y map), Ydi hyn yn golygu bydd dyfodol adeiladol Pwllheli am fod, ar a thu hwnt i’r bryn?

Ethos cyffredinol yr Adroddiad yw ei fod yn ‘ddinesig’ ei arddull, gyda’r mwyafrif helaeth o ddatblygiadau’n cael eu cyfeirio tuag at yr aneddleoedd trefol a datblygiadau cefn gwlad yn cael eu hanwybyddu.

Dim ond crafu’r wyneb mae’r blog yma o’r Adroddiad yr Arolygwr.

Ar 28/01/2008 gan Michael Sol Owen -->

Gadewch Sylw