Ennill gwobr misol a derbyn
newyddion wythnosol am
fargeinion gorau Pwllheli:
Enw:
Ebost:

Clwb Rygbi Pwllheli

Pwllheli 65 Y Trallwng 16 

 Beth am ddod draw i Barc Bodegroes i weld eich Clwb Rygbi lleol yn chwarae.

Mae Pwllheli wedi cael dechrau penigamp i’r tymor, gyda bob un o’r timau yn cael dipyn o hwyl arni. Mae’r tim cynta’ wedi cael y cychwyn gorau i dymor ers rhai blynyddoedd. Maent yn ail yn Adran 5 o’r Gynghrair ac yn un o dim ond dau dim drwy Gymru gyfan, sydd nid yn unig wedi curo eu gemau i gyd, ond hefyd wedi sicrhau pwynt bonws ym mhob un o’r gemau hynny.

O dan eu hyfforddwr newydd, David Martin mae gan y Dref dim o hogia ifanc dawnus a’r gobaith yw gallu esgyn i Adran 4 o’r Gynghrair y tymor nesa’.  Gyda llif y gemau wedi cael ei amharu gan Gwpan y Byd a Phencampwriaeth y Chwe Gwlad, a’r sefyllfa wedi gwaethygu ymhellach gyda’r tywydd garw diweddar, mae ‘na ddigon o gemau cartra i edrych ymalen atynt  yn yr wythnosau nesa. Chwaraeir y gyntaf o’r rheini ar 16eg o Chwefror yn erbyn Rheadr.

Ewch i wefan y Clwb i gael hanes llawn y tymor. Mae canlyniadau i’w cael yn fuan ar ol cwblhau’r gemau, fel arfer ar y nos Sadwrn, ynghyd a llunia ag adroddiadau rheolaidd o’r gemau.    http://www.pwllhelirfc.com/cymraeg/newyddion.htm

Ar 05/02/2008 gan Keith Parry -->

Gadewch Sylw