Ennill gwobr misol a derbyn
newyddion wythnosol am
fargeinion gorau Pwllheli:
Enw:
Ebost:

Gem rygbi gynta’ ym Modegroes ers Tachwedd 17eg 2007

Y gêm gartref ola’ i’r tîm chwarae oedd yng Nghwpan Gogledd Cymru ar Dachwedd 17eg 2007 yn erbyn Yr Wyddgrug.. Ers y diwrnod hwnnw dim ond pedair gêm chwaraewyd.   

Mae’r tîm wedi chwarae rygbi o safon hyd yma, a hynny o dan amgylchiadau anodd dros ben. Mae’r cyfnodau segur cyson wedi bod yn brawf ar ymroddiad chwaraewyr a hyfforddwyr, gyda’r tîm wedi chwarae dim ond 8 gem Gynghrair a dwy gêm Gwpan ers mis Medi. Welwn i fawr o newid hyd nes y bydd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi cwblhau. 

Mae’n amlwg fod angen edrych ar y strwythur rygbi yn y Gogledd a bydd y Clwb yn ymladd er sicrhau gwelliannau ar gyfer y tymor nesa’. Dim ond dwy gêm sydd gan y tîm Ieuenctid am weddill y tymor. Go brin fod y sefyllfa hon y ffordd i feithrin a datblygu’r gêm. 

Ein gwrthwynebwyr bnawn Sadwrn fydd Rheadr, ar eu hymweliad cyntaf a Phen Llyn. Fe fydd croeso cynnes iawn yn eu disgwyl. Roedd y gêm gyfatebol yn Rheadr yn gynharach yn y tymor yn ornest galed gyda chwaraewyr o’r naill ochr a’r llall yn cael eu hunain yn y gell cosb. Disgwylir yr un ymroddiad gan y ddau dîm heddiw a gobaith am gêm rygbi i’w chofio.  

Edrychwn ymlaen i’ch gweld yn y Clwb bnawn Sadwrn – y gêm i gychwyn am 2.30 fel arfer.

Ar 13/02/2008 gan Keith Parry -->