Ennill gwobr misol a derbyn
newyddion wythnosol am
fargeinion gorau Pwllheli:
Enw:
Ebost:

Gem rygbi gyntaf 2008.

Mae’r tymor wedi bod yn un annodd hyd yn hyn. Er fod y tim wedi bod yn perfformio’n dda ar y cae mae llif a threfn y gemau wedi cael eu ffeithio gan nifer o elfennau tu allan i’n rheolaeth.

I gychwyn daeth Cwpan y Byd i dorri fyny wythnosau agoriadol y tymor. Hefyd roedd methiant Clwb Rygbi Bangor i gynnal tim yn ergyd. Ychydig cyn y Dolig wedyn daeth y tywydd i amharu ar bethau. Yn ddiweddar mae Cystadleuaeth y Chwe Gwlad a methiant mwy nag un tim i gyflawni’u gemau yn golygu nad ydi’r tim wedi chwarae gartref ers Tachwedd 11eg 2007.

Mae’r gem y Sadwrn nesa’n bwysig am fwy nag un rheswm. Collodd y tim eu record cant y cant yn eu gem ola’n erbyn Bethesda a bydd buddugoliaeth yn erbyn COBRA’n fodd o gadw’r pwysau ar y timau odditanom yn y tabl.

Fel y gallwch ddychmygu mae prinder gemau cartref dros gyfnod o fwy na phedwar mis wedi amharu ar incwm. Beth am ddod i gefnogi’r tim a’r Clwb wrth i ni wthio tuag at ddyrchafiad i Adran 4 o’r Gynghrair.Cychwyn amĀ  2.30.

Ar 18/03/2008 gan Keith Parry -->