Siopau
Mae gen Bwllheli ystod eang o siopau difyr, lliwgar ac annibynol. Yn fan hyn, byddwn yn eu rhestru nhw yn llawn, gyda thudalennau gwybodaeth ychwanegol ar gyfer y rhai sydd yn aelodau o’r Rhwydwaith Busnes.
Byddwn yn cynnwys argymhellion pobl leol ac erthyglau gan enwogion Gwynedd am eu hoff siopau, ac yn gweithio tuag at fedru cynnwys fideos byr o siopau’r rhwydwaith fel ffordd newydd a chyffrous i’w cyflwyno.
Clywed am y gorau sydd ar gael»
Trwy gydweithio gyda’n gilydd fel rhan o’r Rhwydwaith Busnes, mae busnesau Pwllheli yn bwriadu sicrhau y byddwch yn medru clywed am ein holl fargeinion yn fan hyn. Bob tro bydd cynnig arbennig ar gael yn y dref, byddwn yn gadael i chi wybod amdano fo yn fan hyn…:-)
Clwb Cychod y Marina»
Saif Clwb Cychod y Marina uwch harbwr Pwllheli, a cheir olygfa odidog oddi yma o’r marina ei hun a mynyddoedd Eryri.
Ceir awyrgylch gyfeillgar yn y clwb, a chynigir defnydd llithrfa a pontynau i’r aelodau. Mae yma hefyd ddigon o le parcio preifat ar gyfer ceir a threlars. Croeso mawr i aelodau newydd!
Am ragor o wybodaeth, […]
Gem rygbi gyntaf 2008.»
Mae’r tymor wedi bod yn un annodd hyd yn hyn. Er fod y tim wedi bod yn perfformio’n dda ar y cae mae llif a threfn y gemau wedi cael eu ffeithio gan nifer o elfennau tu allan i’n rheolaeth.
I gychwyn daeth Cwpan y Byd i dorri fyny wythnosau agoriadol y tymor. Hefyd roedd methiant […]