Ennill gwobr misol a derbyn
newyddion wythnosol am
fargeinion gorau Pwllheli:
Enw:
Ebost:

Rhwydwaith Busnes

Cred Cymuned bod busnesau bychain lleol yn rhan hanfodol o economi Pen Llŷn, a dylid flaenoriaethu busnesau felly mewn unrhyw gais i gryfhau economi’r ardal. Mae busnesau lleol yn cadw rhwng 60% i 80% o’u trosiant yn yr economi lleol, lle mae siopau cadwyn yn medru cadw cyn lleied ag 14%. Mae busnesau lleol yn tueddu i gynnig cyflogau gwell na’r siopau cadwyn, ac mewn cymuned fel Pen Llŷn y maent yn asgwrn cefn i’r iaith Gymraeg.

Ar lefel Prydeinig, mae siopau cadwyn erbyn hyn wedi cyrraedd sefyllfa lle mae’n anodd iddynt dyfu’n bellach yn y dinasoedd a threfi mawrion, ac felly maent wedi cychwyn cystadlu rhwng ei gilydd am y trefi llai. Mae hyn yn dod â bygythiad amlwg i Ben Llŷn – mae siopau cadwyn yn gwneud elw trwy ganoli cymaint â bo modd dan un to a thrwy dalu cyflogau isel. Hynny yw, maent yn gweithio fel pibellau mawr sy’n sugno cyfoeth allan o’r ardal leol.

Dim ond dwy ffordd sydd i wrthsefyll hyn. Yn gyntaf, mae modd gwrthod caniatad cynllunio i siopau cadwyn, a dylid bwyso’n gryf ar ein Cyngor i’w wneud. Modd bynnag, rhaid cydnabod na fydd y Cyngor yn gwneud penderfyniad o blaid busnesau lleol bob tro, felly mae’n rhaid hefyd i fusnesau lleol gystadlu yn erbyn y siopau cadwyn.

Tuedd sydd i gredu nad oes modd gwneud hyn, oherwydd adnoddau anferth y siopau cadwyn – ond fel mae nifer o brosiectau trwy Brydain wedi dangos, mae modd i rwydweithiau cyd-farchnata busnesau lleol godi trosiant gan gymaint â 25%. Mae hynny’n ddigon i sicrhau bod y rhan helaeth o fusnesau bychain yn medru gwrthsefyll sgil-effeithiau niweidiol siop cadwyn newydd.

Mae Cymuned wedi penderfynu bod y pwnc yma mor bwysig i ddyfodol cymunedau Cymraeg nes bod rhaid i’r mudiad ymrwymo rhywfaint o’i adnoddau prin i geisio codi a chynnal rhwydwaith o’r fath.

Natur y Rhwydwaith

Nid yw’n ddigon i ffurfio rhwydwaith ynddo’i hun – yn rhy aml o lawer, ceir prosiectau felly yn cael eu rhedeg gan gynghorau neu asiantaethau, lle mae gwahoddiad i bawb ymuno, ac wedyn gwahoddiad i bawb feddwl am bethau i’w gwneud. Nid ydym yn gwadu bod lle i grwpiau trafod, ond wrth ffurfio rhwydwaith cyd-farchnata, y peth pwysicaf ydy i gychwyn gyda syniadau penodol, ymarferol y bod modd eu gweithredu yn fuan.

Fel rhan o Rwydwaith Busnes Pwllheli, mae’r gwasanaethau canlynol yn cael eu cynnig i bob aelod:

• Posteri ‘Siopwch yn Lleol’ gyda manylion aelodau’r Rhwydwaith arnynt.

• Bathodynau ‘Siopwch yn Lleol’ ar gyfer cwsmeriaid.

• Bagiau siopa safonol ‘Siopwch yn Lleol’ ar gyfer cwsmeriaid.

[Mae’r tri pheth uchod wedi’u profi fel dull effeithiol i godi ymwybyddiaeth ymysg pobl leol am busnesau lleol ac am yr angen i’w cefnogi]

• Gwefan gydweithredol i hyrwyddo aelodau’r rhwydwaith ac i hysbysebu cynnigion arbennig

• Cyfeirlyfr aelodau’r rhwydwaith fel rhan o’r wefan

• Erthyglau yn Llanw Llŷn am y gwahanol fusnesau a’r gwahanol gymeriadau sydd yn eu rhedeg

• Erthyglau a/neu sylw yn y Caernarfon & Denbigh am y gwahanol fusnesau a’r cymeriadau sydd yn eu rhedeg

• E-bost wythnosol at siopwyr lleol i dynnu eu sylw at gynnigion arbennig aelodau’r rhwydwaith

• Cerdyn manylion rhifau ffôn defnyddiol i siopwyr sydd hefyd yn hysbysebu aelodau’r rhwydwaith

• Cardiau teyrngarwch ar gyfer siopwyr lleol, gyda disgownt bach ar eu cyfer fel mae pob busnes yn penderfynu i’w hunan

• Cynnal cyfres o gyfweliadau gydag enwogion Pen Llŷn i dynnu sylw at y siopau lleol y maent yn eu defnyddio – bydd hyn yn creu deunydd ar gyfer y wefan gydweithredol, a’r posiblrwydd cryf o sylw pellach yn y papurau lleol

• Casglu datganiadau o werthfawrogiad gan gwsmeriaid fel modd i bwysleisio gwasanaeth gwell busnesau lleol – i’w hyrwyddo ar bosteri, bagiau, a’r wefan, ac o bosib yn y wasg lleol

Bydd Cymuned yn medru gosod diwrnod yr wythnos ar gyfer y gwaith uchod, ond mae dyfodol tymor hir y rhwydwaith yn dibynnu ar i’r aelodau gyfrannu £20 y mis fel bod modd ariannu datblygiadau pellach ac, ymhen amser, cyflogi swyddog rhan neu lawn amser. Byddai’r cyfraniadau misol yn mynd i gyfrif ar wahân i brif cyfrif Cymuned, a byddai pob aelod o’r rhwydwaith yn medru gweld y datganiadau banc misol.

Gydag adnoddau ariannol a/neu swyddog, byddai modd i’r rhwydwaith ystyried datblygiadau pellach megis:

• Hyrwyddo tripiau siopau un dydd i Bwllheli o ardaloedd megis Blaenau Ffestiniog, Bethesda, Caernarfon/Bangor, Dolgellau ac o bosib pellach i ffwrdd. Byddai’r tripiau yma yn cael eu gwerthu ar sail profiad unigryw siopa ym Mhwllheli, gyda’r ystod eang o fusnesau bychain a chryfder yr iaith Gymraeg. Bydd modd cydweithio gyda phrosiectau megis Gwyliau Cymraeg i hyrwyddo hyn yn genedlaethol.

• Trefnu mis o ddathliadau yn arwain at y Nadolig, gyda siopau yn aros ar agor yn hwyr ac adloniant yn cael ei drefnu ar y Maes ac yn y Neuadd – darparu papur lapio Nadoligaidd am ddim ar gyfer busnesau sy’n gwerthu nwyddau addas i’w lapio, ac i dynnu sylw at y nosweithiau agor yn hwyr.

• Datblygu gwefan gydweithredol i fedru gwerthu arlein, a threfnu dosbarthu ar y cyd fel bod modd cystadlu’n uniongyrchol yn erbyn siopau mawrion sydd yn cynnig pob dim arlein. Galluogi pobl leol i siopa’n lleol heb ddod i’r dref.

• Cynnal raffl misol/wythnosol lle mae siopwyr yn cael un tocyn bob tro byddant yn prynu rhywbeth yn un o fusnesau’r rhwydwaith, gyda gwobr misol/wythnosol wedi’i noddi gan un o aelodau’r rhwydwaith (bydd hyn hefyd yn arwain at fwy o sylw yn y Llanw Llŷn a’r Caernarfon & Denbigh).

• Gwerthu crysau T ‘Siopwch yn Lleol’ gyda lluniau o Bwllheli arnyn nhw.

• Trefnu cyfarfod chwarterol ar gyfer aelodau’r rhwydwaith lle bydd siaradwyr gwadd yn rhoi cyngor ymarferol am sut i farchnata busnesau unigol, a’r rhwydwaith, yn fwy effeithiol. Bydd modd hefyd i aelodau’r rhwydwaith argymhell a thrafod syniadau penodol i’r swyddog eu datblygu.

• Datblygu rhwydwaith ‘Cefnogwyr Busnesau Lleol’ am gyfraniad unigol o £5 y mis lle mae aelodau’r rhwydwaith yn cael e-bost gyda manylion am y bargeiniaid gorau oll, megis surplus stock, returns, ac yn y blaen.

• Datblygu pecyn twristiaid sydd yn cyflwyno busnesau lleol i’r farchnad twristiaeth gan awgrymu syniadau ar gyfer gweithgareddau lleol a chyfleon siopa yn yr ardal

• Datblygu pecyn syniadau ar gyfer pobl leol a chymdeithasau lleol er mwyn dangos sut mae defnyddio busnesau lleol wrth drefnu priodasau, penblwyddi, partïon, nosweithiau rhamantus, gweithgareddau penwythnos, ac yn y blaen.

• Datblygu sustem ‘pwyntiau bonws’ lle mae prynu’n lleol yn arwain at docynau am ddim i weithgareddau sydd ddim yn costio i’r busnesau eu cynnig – tocynnau am ddim i ddramau neu ffilmiau, i fynd i fowlio deg, ac yn y blaen.

Os oes ganddoch chi ddiddordeb mewn dod yn rhan o Rwydwaith Busnes Pwllheli, cysylltwch gyda ni ar cymuned[at]cymuned.org neu ar 01758-612712, a byddwn yn falch iawn i anfon ffurflen aelodaeth atoch.

Cynnigion Arbennig

Clywed am y gorau sydd ar gael»

Trwy gydweithio gyda’n gilydd fel rhan o’r Rhwydwaith Busnes, mae busnesau Pwllheli yn bwriadu sicrhau y byddwch yn medru clywed am ein holl fargeinion yn fan hyn. Bob tro bydd cynnig arbennig ar gael yn y dref, byddwn yn gadael i chi wybod amdano fo yn fan hyn…:-)

Cymdeithasau Lleol

Clwb Cychod y Marina»

Saif Clwb Cychod y Marina uwch harbwr Pwllheli, a cheir olygfa odidog oddi yma o’r marina ei hun a mynyddoedd Eryri.
Ceir awyrgylch gyfeillgar yn y clwb, a chynigir defnydd llithrfa a pontynau i’r aelodau. Mae yma hefyd ddigon o le parcio preifat ar gyfer ceir a threlars. Croeso mawr i aelodau newydd!
Am ragor o wybodaeth, […]

Adloniant Lleol

Gem rygbi gyntaf 2008.»

Mae’r tymor wedi bod yn un annodd hyd yn hyn. Er fod y tim wedi bod yn perfformio’n dda ar y cae mae llif a threfn y gemau wedi cael eu ffeithio gan nifer o elfennau tu allan i’n rheolaeth.
I gychwyn daeth Cwpan y Byd i dorri fyny wythnosau agoriadol y tymor. Hefyd roedd methiant […]