Newyddion
I weld yr holl newyddion sydd gennym ar y wefan, cliciwch ar y penawd ‘Newyddion’ drosodd yno ar y dde - neu, os ydach chi’n ddiog, yn FAN HYN…;-)
Os oes ganddoch chi unrhyw newyddion o gwbl i rannu gyda phobl Pwllheli, anfonwch atom ni at hybu[at]pwllheli.org a byddwn yn falch i’w gynnwys. Efallai byddai’n braf i chi adael i bobl eraill wybod am yr hyn mae eich capel neu gylch lenyddol yn ei wneud? Neu efallai byddech chi’n awyddus i adael i bobl eraill wybod am briodau neu enedigaeth yn y teulu!
Beth bynnag newyddion sydd ganddoch chi i’w rhannu, cysylltwch gyda ni a byddwn ni’n rhoi lle teilwng iddo yn fan hyn…:-)
Clywed am y gorau sydd ar gael»
Trwy gydweithio gyda’n gilydd fel rhan o’r Rhwydwaith Busnes, mae busnesau Pwllheli yn bwriadu sicrhau y byddwch yn medru clywed am ein holl fargeinion yn fan hyn. Bob tro bydd cynnig arbennig ar gael yn y dref, byddwn yn gadael i chi wybod amdano fo yn fan hyn…:-)
Clwb Cychod y Marina»
Saif Clwb Cychod y Marina uwch harbwr Pwllheli, a cheir olygfa odidog oddi yma o’r marina ei hun a mynyddoedd Eryri.
Ceir awyrgylch gyfeillgar yn y clwb, a chynigir defnydd llithrfa a pontynau i’r aelodau. Mae yma hefyd ddigon o le parcio preifat ar gyfer ceir a threlars. Croeso mawr i aelodau newydd!
Am ragor o wybodaeth, […]
Gem rygbi gyntaf 2008.»
Mae’r tymor wedi bod yn un annodd hyd yn hyn. Er fod y tim wedi bod yn perfformio’n dda ar y cae mae llif a threfn y gemau wedi cael eu ffeithio gan nifer o elfennau tu allan i’n rheolaeth.
I gychwyn daeth Cwpan y Byd i dorri fyny wythnosau agoriadol y tymor. Hefyd roedd methiant […]